AC(4)2012(4) Papur 7 rhan 1

Dyddiad: Dydd Iau 28 Mehefin 2012
Amser:
    10:30 - 12:30
Lleoliad:
  Swyddfa’r Llywydd
Enw a rhif cyswllt yr awdur:
  Claire Clancy, estyniad 8233

Portffolios Comisiwn y Cynulliad

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Adolygu portffolios presennol y Comisiynwyr a phenderfynu a oes angen unrhyw newidiadau.

2.0    Argymhellion

2.1     Bod y Comisiynwyr yn ystyried eu portffolios yng ngoleuni’r flwyddyn weithredu gyntaf, gan gadw eu natur drawsbleidiol a sicrhau bod y llwyth gwaith, a natur y gwaith, yn cael ei rannu’n gytbwys.

3.0    Trafodaeth

3.1     Mae’r Comisiynwyr yn gyfrifol yn gorfforaethol am gyflawni’r swyddogaethau a roddir i’r Comisiwn ac am lywodraethu’r sefydliad ac, yn hynny o beth, am weithredu er budd y Cynulliad cyfan. Mae derbyn portffolio yn galluogi Comisiynwyr i ddatblygu eu gwybodaeth am feysydd penodol a gweithio gyda swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol mwy trylwyr a chyson nag y mae cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu.

3.2     Ym mis Mehefin y llynedd, mabwysiadodd y Comisiwn y portffolios a nodir yn yr Atodiad.

3.3     Yn ystod y flwyddyn, mae’r Comisiynwyr wedi datblygu cysylltiadau gweithiol gyda’r rhai sy’n darparu gwasanaethau yn eu meysydd portffolio. Mae hyn wedi cynnwys cwestiynu, y modd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac ansawdd y gwasanaethau hynny, mewn modd defnyddiol ac adeiladol, ac maent wedi sicrhau bod cyfrwng ar gyfer cyfathrebu ynghylch barn ehangach yr Aelodau. Roedd y Comisiynwyr yn ateb cwestiynau’r Cynulliad ar eu meysydd portffolio eu hunain, a chafodd yr atebion eu gwirio gan y Comisiynydd sy’n gyfrifol.

3.4     Gall fod yn ddefnyddiol i ddisgrifio enghreiffitau o’r modd y mae ambell Gomisiynydd portffolio unigol wedi datblygu ei waith. Nid yw hon yn rhestr gyflawn o gwbl.

·    Mae Sandy Mewies wedi cymryd diddordeb personol arbennig yng ngweithrediad y Senedd a phrofiad yr ymwelwyr sy’n dod i ystâd y Cynulliad, ac mae hi wedi ymwneud llawer â’r gwelliannau diweddar a wnaed i Siop y Cynulliad. Dangosodd gefnogaeth bersonol i fentrau cydraddoldeb ac mae hi wedi ymwneud llawer â chwblhau cynllun cydraddoldebau’r Cynulliad.

·    Mae Angela Burns wedi arwain y ffordd yn y dasg o reolaeth ariannol a llywodraethu drwy’r flwyddyn. Mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Archwilio. Gweithia Angela’n agos gyda swyddogion ar strategaeth cyllideb y Comisiwn ac mae hi wedi llwyddo i arwain ar fater cytuno ar gyllideb y Comisiwn. Hi hefyd sy’n gyfrifol am y gwasanaethau ar gyfer Aelodau ac mae’n ymwneud â’r gwaith o werthuso’r gwasanaethau hynny.

·    Mae Peter Black yn cynorthwyo i ddarparu cynlluniau TGCh gan gynorthwyo i ddatrys materion darparu’r gwasanaeth gydag Atos, yn ogystal ag ymwneud yn glos â’n prosiectau TGCh mawr. Yn ei rôl o gynorthwyo’r Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad, mae wedi cyfrannu at ddatblygu Strategaeth Pobl a Strategaeth ar gyfer Gwybrwyo, ac mae wedi cymryd diddordeb mewn materion anodd fel ad-drefnu’r adran ddiogelwch.   

·    Rhodri Glyn Thomas yw’r aelod sy’n gyfrifol am Fil Ieithoedd Swyddogol y Comisiwn. Bu’n ymwneud yn frwd â’r ymgynghoriad ar y Bil cyn deddfu, a’r cynllun, ac ar hyn o bryd mae’n gyfrifol am hynt y Bil drwy’r Cynulliad.

·    Mae gan y Llywydd gysylltiad uniongyrchol rheolaidd â Keith Bush y Prif Gynghorydd Cyfreithiol, ond bu’n weithgar hefyd ynghylch materion cyfathrebu, a’r ffordd y defnyddir ystâd y Cynulliad i hywyddo gwaith y Cynulliad, ac mae hi wedi hyrwyddo’r gwaith ar ddatblygiad proffesiynol yr Aelodau a’u staff.

·    Er nad yw David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, yn aelod ffurfiol o’r Comisiwn, fel y cytunwyd, mae wedi cefnogi’r Comisiwn drwy ganolbwyntio ar y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, yn arbennig drwy gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

3.5     Flwyddyn ar ôl mabwysiadu’r meysydd portffolio hyn, byddai’n briodol ystyried a ydynt yn gweithio’n dda ac a oes cydbwysedd o ran cyfrifoldebau:

·    Mae’n ymddangos bod y galwadau o ran gwaith ar bortffolios, yn amrywio;

·    Bydd rhai materion o bwys y bydd angen rhoi llawer o sylw iddynt yn y dyfodol agos, yn arbennig, TGCh;

·    Mae cyfathrebu yn fater sy’n gyffredin drwy bob portffolio i raddau, a dylai’r gwaith o wella ein harferion cyfathrebu gael ei rannu.

·    Rydym ar fin cynnal arolwg cwsmeriaid gyda’r Aelodau ac mae’n bosibl y bydd hyn yn creu diddordeb a galwadau newydd.

·    Mae gwaith y Bwrdd Taliadau’n parhau, ac efallai y byddai’n fwy buddiol pe bai un Comisiynydd penodol yn cael cyfrifoldeb dros y cysylltiad â’r Bwrdd.

3.6     I fynd i’r afael â’r ystyriaethau hyn, gallai’r Comisiynwyr ystyried y mân newidiadau a ganlyn a wnaed i’r portffolios: (dros y ddalen)


 

 

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, gyda’r prif gyfrifoldeb am gyfathrebu a datblygiad proffesiynol yr Aelodau a’u staff.

Rosemary Butler

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio. Cysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i Aelodau. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Angela Burns

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth. Cynaliadwyedd.

Peter Black

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, Siop y Cynulliad, arlwyo a diogelwch. Ystâd a chyfleusterau’r Cynulliad. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb.

Sandy Mewies

Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg. Y Gwasanaethau Cyfreithiol a rhyddid gwybodaeth.

Rhodri Glyn Thomas

 

Hefyd, byddai David Melding yn parhau i gefnogi’r Comisiwn drwy arwain ar fater y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, ac ar gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Mehefin 2012


 

Atodiad: Portffolios gwreiddiol

Portffolio

Comisiynydd

Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cyfreithiol.

Rosemary Butler AC

Y gyllideb, llywodraethu, gan gynnwys aelodaeth y Pwyllgor Archwilio, a chysylltiadau â’r Bwrdd Taliadau. Gwella gwasanaethau i Aelodau, cymorth cyflogaeth a datblygu proffesiynol ar gyfer Aelodau a’u staff.

Angela Burns AC

TGCh, darlledu ac e-ddemocratiaeth, ystâd y Cynulliad, cyfleusterau a chynaliadwyedd. Y Comisiwn fel cyflogwr staff y Cynulliad.

Peter Black AC

Gwasanaethau addysg, cyswllt cyntaf, arlwyo a diogelwch. Swyddogaethau statudol y Comisiwn mewn perthynas â chydraddoldeb a rhyddid gwybodaeth.

Sandy Mewies AC

Ymgysylltu a chyfathrebu â’r dinesydd, allgymorth cenedlaethol a rhyngwladol. Swyddogaethau a pholisi’r Comisiwn mewn perthynas â’r Gymraeg.

Rhodri Glyn Thomas AC

 

Er nad yw David Melding AC, y Dirprwy Lywydd, yn aelod ffurfiol o’r Comisiwn, cytunwyd y bydd yn cefnogi’r Comisiwn drwy ganolbwyntio ar y Pierhead fel canolfan ar gyfer datblygu a thrafod yn y Cynulliad, ac ar gysylltiadau â Chanolfan Llywodraethiant Cymru a sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r rôl hon.